David Edwards

Pennaeth Canolfannau Data - BT

David Edwards

view hi-res version (160 x 120, 36kb)

Ymunodd David â BT ym 1978 a bu’n gweithio mewn sawl maes busnes gan gynnwys gwerthiant, gwasanaeth a gweithrediadau.  

 

Wedi deng mlynedd mewn hyfforddiant a datblygu, cymerodd David brif rôl yn cynllunio a chyflwyno ystod eang o destunau gan gynnwys gwerthiant, datblygu busnes, trafodaethau a rheoli gwasanaethau byd-eang. 

 

Er iddo gael boddhad personol enfawr yn helpu pobl i ddatblygu eu medrau eu hunain, roedd David eisiau rhoi llawer o’i ddatblygiad ei hun yn ôl i amgylchedd busnes prif ffrwd, ac felly derbyniodd rôl yn sefydlu gweithrediad pont newydd yng Nghaerdydd yn 2001.  Wedi iddo gael ei ddyrchafu i rôl gweithrediadau rhanbarthol yn 2003, symudodd David i gymryd cyfrifoldeb am holl ganolfannau data BT gwledydd Prydain yn 2005, gan greu cyfle i gyflwyno newid ar draws 40 safle yng ngwledydd Prydain.

 

Derbyniodd David wobr Platinwm BT y flwyddyn ddilynol am gyflwyno rhaglen ‘symudedd’, sydd wedi dod â manteision sylweddol i’r cwsmer, y busnes ac yn bersonol.

Ymunodd David â Bwrdd BT Cymru yn 2007 ac ehangwyd y cyfle i ddysgu oddi wrth, a dylanwadu eraill sy’n wynebu heriau economaidd sy’n gyfnewidiol.  Ymhlith y prif feysydd y bydd yn canolbwyntio arnynt yn y dyfodol yw cyfleoedd sgilio i’r Tîm Canolfan Ddata a ffocws cynyddol ar fethodoleg Gwyrdd.

 

Cyfrannodd David a’i dîm yn gadarn i God Ymddygiad Ewropeaidd ar gyfer effeithiolrwydd ynni canolfannau data a gyhoeddwyd yn 2008.  Roedd yn manylu ar arferion gorau i gefnogi diwydiant canolfannau data cynaliadwy.  Roedd hon yn ddogfen a dorrodd dir newydd ac roedd David yn falch o weld diddordeb sylweddol ynddi, pan ofynnwyd iddo siarad yn y Gynhadledd Global Green Telco yn 2009.  Er 2008, mae David wedi bod yn gyfrifol am Ystâd Canolfan Ddata Byd-Eang BT ac mae ganddo’r cyfle nawr i ostwng carbon ar draws ystod llawer ehangach.   Gan hynny, mae wedi gosod holl amcanion penodol ei reolwyr mewn gwella effeithiolrwydd ynni ac wedi cyflwyno achrediad canolfan ddata sy’n cynnwys arfer gorau mewn dysg ynni.

 

Bookmark this page with: