Pencampwyr Newid Hinsawdd

Mae Grŵp Arweinyddion Busnes ar Newid Hinsawdd, Busnes yn y Gymuned Cymru, a sefydlwyd ym Mawrth 2008 yn chwarae rôl pwysig a phroactif i arwain ac ysgogi busnesau Cymru i ymateb i Newid Hinsawdd. 

  • Noreen Bray OBE

    Cadeirydd, Good Relations Cymru

    A hithau’n Gadeirydd Good Relations Cymru, mae Noreen yn gweithio ar ystod o gyfrifon yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Mae’n aelod hirsefydlog o Fwrdd Cynghori Cymru ac mae wedi annog ei chwmni i gymryd rhan mewn nifer o fentrau sy’n cefnogi arferion busnes cyfrifol.

  • David Edwards

    Pennaeth Canolfannau Data - BT

    Ymunodd David â BT ym 1978 a bu’n gweithio mewn sawl maes busnes gan gynnwys gwerthiant, gwasanaeth a gweithrediadau.

  • Carolyn Merrifield

    Cyfarwyddydd y Bwrdd – Holder Mathias

    Ymunodd Carolyn â Holder Mathias yn 2006 ac fe’i gwnaed yn Gyfarwyddydd y Bwrdd yn Ionawr 2008. Cyn hynny, roedd hi’n rheolydd gyfarwyddydd B3 Burgess, Caerdydd ble bu’n gweithio am bymtheg mlynedd.

  • Steve Hodgetts

    Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Masnach – Maes Awyr Caerdydd

    Mae rôl a chyfarwyddiaeth Steve wedi’u creu i gyfuno cyfrifoldebau swyddogaethau datblygu busnes a masnach.

  • Philip Lay

    Cyfarwyddwr Manwerthu - SA Brain a Chwmni

    Cwmni dan berchnogaeth breifat gyda busnesau Bragu a Thafarnau ar draws Cymru a Gorllewin Lloegr.

  • Andrew Padmore

    Cyfarwyddwr - UES

    Mae Andrew Padmore yn Gyfarwyddwr ac yn sylfaenydd un o’r cwmnïiau ymgynghori gwasanaethau ac amgylcheddol sy’n datblygu gyflymaf yng Nghymru – UES.

  • Graham Edwards

    Prif Weithredwr – Wales & West Utilities

    Mae Graham wedi bod yn Brif Weithredwr Wales & West Utilities ers ei sefydlu ym Mehefin 2005, wedi iddynt brynu’r busnes dosbarthu nwy oddi wrth y Grid Cenedlaethol.

  • Philip Holmes

    Pennaeth y Grŵp Caffael a Chyfleusterau – Cymdeithas Adeiladu’r Principality

    Philip Holmes yw Pennaeth y Grŵp Caffael a Chyfleusterau yng Ngrŵp Cwmnïau Cymdeithas Adeiladu’r Principality ac mae ganddo dros 24 blynedd o brofiad yn ei faes. Mae ganddo Radd Meistr mewn Caffael ac mae’n Aelod o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi.

  • Alan Meredith

    Uwch Bartner - Eversheds

    Mae Alan yn gyfreithiwr Eiddo Tiriog ac yn aelod o’r Uwch Dîm Rheoli gyda chwmni cyfreithiol Eversheds yn gyfrifol am ddatblygu grwpiau diwydiannol a pholisi Cyfrifoldeb Corfforaethol y cwmni. Mae hefyd yn Uwch Bartner yn swyddfeydd y cwmni yng Nghaerdydd sydd â 621 aelod o staff.

  • David Brown

    Rheolwr Gyfarwyddwr Bws Caerdydd

    Gyda throsiant o £33m yf, staff o 730 a fflyd o 225 o gerbydau, mae gwaith y cwmni yn chwarae rhan bwysig yn rhaglenni economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein Prifddinas. Yn syml iawn, nod y Cwmni yw ‘bod y gorau’.

  • Sally Gronow

    Pennaeth Cyfathrebu - Dŵr Cymru Welsh Water

    A hithau’n ferch fferm, yn enedigol o Swydd Efrog, mae Sally wedi gweithio i Dŵr Cymru Welsh Water er 2001 – a chyn hynny bu’n gweithio i Drydan De Cymru a Hyder.

Bookmark this page with: