Cymuned

Mae ymgysylltiad cymunedol yn canolbwyntio ar sut mae cwmni yn rheoli ei weithgarwch yn y gymuned ac yn creu effaith gadarnhaol ar gyfer y busnes a’r gymuned.

Mae Busnes yn y Gymuned yn cydnabod y manteision sydd ar gael i gymunedau a busnesau trwy rannu eu gwybodaeth, arbenigedd, medrau, amser ac adnoddau.

Gall Busnes yn y Gymuned helpu busnesau i gynnal a chefnogi eu cymunedau trwy ddefnyddio grym gweithwyr yn gwirfoddoli, brocera medrau ac arbenigedd proffesiynol, annog cwmnïau i gydweithio i fynd i’r afael ag anfantais, a chanolbwyntio ar faterion cymdeithasol allweddol trwy fframwaith agenda RED. Mae agenda RED yn canolbwyntio ar:

  •  Wella cyflawniadau pobl ifanc -  Gall busnesau gynnal a chefnogi pobl ifanc ym meysydd medrau sylfaenol i helpu rhoi gwell cyfleoedd iddynt
  •  Cyflogadwyedd – Mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n atal pobl rhag cael gwaith trwy eu helpu i ddatblygu’r medrau a chymhelliant i fynd i mewn i fyd gwaith
  •  Cymunedau difreintiedig yng Nghymru – Adeiladu ar adferiad economaidd trwy gynnig cymorth proffesiynol, mentora, strategol penodol ac o fathau eraill i gymunedau mewn angen.

Gofal i Gymru

Mae Busnes yn y Gymuned yn helpu cwmnïau i roi sylw i fater effaith gymunedol trwy Gofal i Gymru, rhaglen genedlaethol i annog gweithwyr i wirfoddoli.

Darllenwch fwy am raglenni Gweithwyr yn Gwirfoddoli Busnes yn y Gymuned.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth neu i gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd Cymuned, cysylltwch â Jocelle Lovelle ar 02920 780 050.

 

Bookmark this page with: