Cynllun Wêl a Gred y Tywysog – Rhaglen Genedlaethol Cymru
Mae A Wêl a Gred y Tywysog yn rhoi cipolwg i arweinwyr busnes ar y materion sy’n wynebu rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig ac yn eu hannog i ystyried sut y gall busnes ymateb.
Drwy adeiladu ar hanes o ymweliadau llwyddiannus â Chymru dros nifer o flynyddoedd, ysbrydolodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru lansiad Rhaglen Genedlaethol Cymru yn ystod ei ymweliad â Blaenau’r Cymoedd yn Nhachwedd 2006.
Mae rhaglen 2010 yn canolbwyntio ar ardaloedd daearyddol drwy Gymru ble mae lefelau uchel o amddifadedd ond cyfleoedd sylweddol. Bydd yr ymweliadau hyn yn archwilio’r ffyrdd ble gall camau gweithredu gan fusnesau helpu codi ymwybyddiaeth, cynyddu cyflogadwyedd, goresgyn rhwystrau a chefnogi adfywiad.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Genedlaethol Cymru yn cael eu gwahodd i adborth i Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru mewn digwyddiad yn ddiweddarach eleni.
Bookmark this page with:
