Gweithle
Mae denu a chadw’r gweithwyr gorau yn allweddol i lwyddiant busnes o bob sector a maint. Mae meithrin rhagoriaeth yn y gweithle yn hanfodol er mwyn goroesi a thyfu.
Mae Busnes yn y Gymuned yn cynnal a chefnogi cwmnïau i feithrin ymddygiad ac arferion busnes cyfrifol yn y gweithle. Mae ein rhaglenni yn galluogi cwmnïau i weithredu ar faterion sy’n benodol i’w cwmni, sector neu ardal nhw a gallant greu gwerth trwy adeiladu diwylliant mewnol cadarnhaol.
Y Ddadl Fusnes dros ymddygiad ac arferion busnes cyfrifol yn y gweithle:
· lefelau presenoldeb uwch gan weithwyr sy’n teimlo’n ddiogel, yn uchel eu cymhelliant a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi
· gallu “dewis gyflogwyr” i ddenu a chadw’r staff gorau
· cynhyrchiant uwch gan fod lefelau absenoldeb yn is ymhlith gweithwyr iach
· llai o risg o wynebu costau tribiwnlysoedd
· gwell dealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid a’r gallu i’w diwallu
Gall Busnes yn y Gymuned Cymru gynnal a chefnogi eich busnes i wneud argraff yn y gweithle mewn tri maes allweddol:
· Datblygu Pobl · Amrywiaeth · Iechyd & Lles Er mwyn cael mwy o wybodaeth am ymgyrchoedd Gweithle Busnes yn y Gymuned, cysylltwch â Jocelle Lovell trwy ebost neu ffoniwch 02920 780 050.
Bookmark this page with:
