Gwobrau Rhagoriaeth Cymru 2010

Derbyniodd pedwar busnes o Gymru 5 Tic Mawr ailachrededig yng Ngwobrau Rhagoriaeth Busnes yn y Gymuned am eu hymrwymiad parhaus i arfer busnes cyfrifol. Cafodd GE Healthcare, Cadbury, Cymdeithas Tai’r Rhondda a BHP Billiton eu cydnabod am eu heffaith gadarnhaol ar gymdeithas yn y digwyddiad neithiwr yng Nghaerdydd yn Stadiwm SWALEC.

Yn ogystal â chydnabod y cwmnïau hynny sydd wedi cyflawni achrediad Tic Mawr y DG, roedd y digwyddiad yn dathlu’r nifer cynyddol o gwmnïau yn gweithio yng Nghymru neu o Gymru sydd wedi cael effaith gadarnhaol mewn un o 5 categori newydd o Wobrau.

Ein categorïau a’n henillwyr yw:

Gwobr Amgylchedd Cymru wedi’i noddi gan EADS Defence & Security

EADS Defence & Security logo

Ar gyfer sefydliadau sy’n llwyddo i dorri eu hallyriadau carbon ac i gael rheolaeth fewnol ar eu hôl troed carbon:

Enillydd:  Bluestone Resorts Ltd
Cymeradwy Iawn:   Wates

Tîm Gofal y Flwyddyn Cymru wedi’i noddi gan Dwr Cymru Welsh Water

Dwr Cymru Welsh Water logo

Ar gyfer y tîm sydd wedi dangos y gallant gyda’i gilydd wneud gwahaniaeth.

Enillydd:  Magnox North Wylfa
Cymeradwy Iawn:  Safle Zurich Caerdydd

Gwobr Caffael Cyfrifol Cymru wedi’i noddi gan British Gas

British Gas logo

Ar gyfer y cwmni all arddangos arloesedd ac effaith ar draws ei gadwyn gyflenwi.

Enillydd:  Costain
Cymeradwy Iawn:  Cartrefi RhCT

Gwobr Datblygu Pobl Cymru wedi’i noddi gan Arweinyddiaeth & Rheolaeth Cymru

LMW logo

Ar gyfer y cwmni all arddangos y ddadl fusnes o blaid meithrin talent a medrau ei weithwyr a/neu’r gymuned.

Enillydd:  Gorsaf Bŵer Glannau Dyfrdwy
Cymeradwy Iawn:  Wates

Gwobr Cwmni Cyfrifol y Flwyddyn Cymru wedi’i noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Welsh Assembly Government Logo

Ar gyfer y cwmni sy’n arddangos orau ei ymrwymiad i arfer busnes cyfrifol, a chael effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, y gymuned, y farchnad a’r gweithle.

Enillydd:  Utility and Environmental Solutions (UES)
Cymeradwy Iawn:  Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr enillwyr, cysylltwch ag Annie Williams trwy e-bost neu ffoniwch 02920 780 050.

Royal Mail logo
Wales & West Utilities logo

Bookmark this page with: