Hafan Amgylchedd


Mae Busnes yn y Gymuned wedi ymrwymo i gynnal a chefnogi busnesau i fynd i’r afael â’r prif faterion amgylcheddol fel newid hinsawdd ac effeithlonrwydd adnoddau.

Ar adeg pan mae’r hinsawdd economaidd presennol yn uchel ar agenda pawb, ni fu mater newid hinsawdd erioed yn bwysicach. 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Tracy Rees, Pennaeth Polisi yng Nghymru ar 029 2078 0050 neu trwy ebost.

 

Beth rydym yn gweithio arno…

  • Rhwydwaith Mayday

    Ymunwch â’r grŵp mwyaf o gwmnïau yng ngwledydd Prydain sydd wedi ymuno i weithredu ar y cyd ar newid hinsawdd.

  • Grŵp Cynaliadwyedd mewn Busnes

    Mae Grŵp Arweinwyr Busnes Cynaliadwy Cymru BITC, a sefydlwyd ym mis Mawrth 2008, yn chwarae rhan ragweithiol a phwysig yn cyfeirio a llywio ymateb busnesau yng Nghymru i Newid Hinsawdd.

  • Mesur eich Ôl Troed Carbon

    Mae BITC yn cynnal arolwg effaith carbon i fesur a chofnodi ôl troed carbon y Rhwydwaith Mayday yng Nghymru. 

  • Digwyddiadau Gweld i Gredu Newid Hinsawdd

    Mae digwyddiadau Gweld i Gredu Newid Hinsawdd EUB Tywysog Cymru yn cynnull at ei gilydd arweinwyr byd busnes ledled Cymru all greu newid yn eu cwmni eu hunain er mwyn mynd i’r afael â materion amgylcheddol/cynaliadwyedd.

  • Prosiect START

    Cafodd Start ei ysbrydoli gan Dywysog Cymru ac mae’n fenter fydd yn dangos sut allai dyfodol cynaliadwy edrych ac yn helpu pob un ohonom i roi cychwyn syml, cadarnhaol arni. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ewch i

  • Polisi ac ariannu

    Mae BITC yn gofalu fod aelodau’n cael y diweddaraf am faterion polisi ac ariannu ac ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol.

Bookmark this page with: