Rhwydwaith Mayday yng Nghymru

Rhwydwaith Mayday yw’r grŵp mwyaf o fusnesau yn y DG sydd wedi ymrwymo i weithredu ar y cyd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae Rhwydwaith Mayday, sy’n cael ei gydlynu gan Busnes yn y Gymuned, yn gywaith o fusnesau sydd ar gyfnodau gwahanol ar hyd taith carbon isel: rhai’n arwain, eraill newydd ddechrau.

Mae Bluestone yn falch o ymuno â Rhwydwaith Mayday y Tywysog sy’n rhoi cyfleoedd inni ddefnyddio arfau newydd a rhannu a dysgu arfer gorau ymhlith rhwydwaith cynyddol o fusnesau. Mae Bluestone wrthi’n barhaus yn chwilio am ffyrdd o wella ei berfformiad amgylcheddol ac mae bod yn rhan o’r rhwydwaith hwn yn adlewyrchu ei ymrwymiad i gyfrifoldeb amgylcheddol ac i wneud Bluestone yn fusnes effaith carbon isel

Pamela JosephCyfarwyddydd Masnachol, Pentref Gwyliau Bluestone

Fe’i henwyd ar ôl yr arwydd trafferth ‘Mayday Mayday’ rhyngwladol ac fe’i sefydlwyd gan EUB Tywysog Cymru yn 2007, a’n nod yw ysbrydoli, ennyn diddordeb, cynnal a herio cymaint o fusnesau ag y bo modd wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Yng Nghymru, mae dros 220 o fusnesau wedi ymuno â’r Rhwydwaith ac wedi gwneud addewidion i fesur, adrodd ar a lleihau allyriadau carbon. Mae targedau yn eu lle i godi’r ffigwr hwn i 500 erbyn 2012.  

Ewch i restr o aelodau Mayday.

Uwchgynhadledd Mayday 2010

Daeth Busnes yn y Gymuned ag aelodau Rhwydwaith Mayday at ei gilydd yn ei ddigwyddiadau Uwchgynhadledd blynyddol ledled Cymru ar Fai’r 11eg, y 12fed a’r 13eg.  Gyda dros 250 o bobl yn bresennol dros y tri diwrnod roedd y digwyddiadau’n llwyddiant mawr.

 

Partneriaid Rhwydwaith Mayday:

 

Ymddiriedolaeth Garbon

Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon yn gweithio mewn partneriaeth gyda busnesau a’r sector cyhoeddus i’w galluogi i dorri costau a charbon.

Welsh Assembly Government Logo

Llywodraeth Cynulliad Cymru yw’r Llywodraeth ddatganoledig i Gymru. Mae LlCC yn gweithio i helpu gwella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein cenedl yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.

FS4B logo

Mae Cymorth Hyblyg i Fusnes yn cynnwys cyngor a chymorth arbenigol ar faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.

Energy Saving Trust logo 2005

Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn fudiad dim-elw sy’n darparu cyngor rhad ac am ddim, diduedd i’ch helpu i roi’r gorau i wastraffu ynni ac arian ac i helpu ymladd newid hinsawdd.

Gwefan Rhwydwaith Mayday

Mae gwefan newydd Rhwydwaith Mayday yn fyw. Bydd y wefan yn eich galluogi i gychwyn Taith Mayday sy’n arweiniad cam wrth gam i helpu eich busnes reoli eich taith carbon isel.  

Mae gan fusnesau gyfle unigryw i gydweithio, rhannu ac arwain y trawsnewid tuag at ddyfodol cynaliadwy, ac rydym yma i helpu trwy ddarparu ffordd rwydd o gael gafael ar yr wybodaeth, arfau, cysylltiadau a storïau ysbrydoledig sydd eu hangen ar fusnesau i allu symud ymlaen ar hyd eu taith.

Bydd gan bob cwmni Mayday eu tudalen proffil eu hunain y gallwch ei golygu a’i defnyddio i ychwanegu gwybodaeth am eich busnes. Dylai pob aelod gwmni fod wedi derbyn cofrestrair personol ar gyfer eu tudalennau er mwyn eu golygu. Rhowch wybod inni os ydych chi’n credu y dylech fod wedi cael un ond heb fod wedi. Mae gan Gymru ei thudalennau rhanbarthol ei hun – felly cofiwch chwilio am eitemau newyddion a digwyddiadau!

Ewch i wefan newydd 'rhwydwaithmayday'. 

logo
The Mayday Journey
may

Bookmark this page with: